Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Gweithredoedd Da (Cyfanswm: 47)

 
(0, 10) 861 Pobun!
 
(0, 10) 863 Pobun, oni'm clywi?
 
(0, 10) 870 Pobun!
 
(0, 10) 872 Pobun, oni'm clywi?
 
(0, 10) 874 Pobun, d'eiddo di ydwyf; erot ti yr wyf yn gorwedd yma.
 
(0, 10) 877 Gwel, dy holl weithredoedd da wyf i.
 
(0, 10) 879 [Dyred ynteu ychydig yn nes ataf.]
 
(0, 10) 882 [Yr wyf yn wan iawn a baich mawr arnaf, am na feddyliaist ti erioed amdanaf.]
 
(0, 10) 884 Bydd arnat angen amdanaf i.
(0, 10) 885 Y mae'r ffordd yn hir echryslon, a thithau heb neb i'th ganlyn.
 
(0, 10) 887 Na, mynnaf ddyfod i'th ganlyn, gan mai d'eiddo di wyf.
 
(0, 10) 889 Oni bai dydi, gallwn ymsymud yn rhwydd, a chydgerddwn â thi lle'r elit.
 
(0, 10) 894 Pobun, clywais dy wysio ger bron dy waredwr i'r farn oruchaf.
(0, 10) 895 [Oni fynni dy golli, na ddos heb neb onid ti dy hun i'r daith hon, meddaf i ti.]
 
(0, 10) 897 A fynnaf i ddyfod gyda thi i'r daith?
(0, 10) 898 A wyt ti'n gofyn hynny i mi, Pobun?
 
(0, 10) 901 [O, Pobun, dy fod ti ar awr mor hwyr yn troi at fy llygaid a'm genau!]
 
(0, 10) 905 Pe buasit ti yn deall gynt nad wyf i lawn mor ddiolwg, buasit wedi aros llawer gyda mi [ymhell o'r byd a phob rhyw ddrwg chwarae!
(0, 10) 906 Tyred yn nes,—gwan yw fy llais i—aethit at y tlodion megis brawd yn gymwys, gyda chydymdeimlad a gofid, a buasit wedi dechrau eu caru hwy, a'th galon wedi.
(0, 10) 907 llawenhau, a minnau, sy mor fethiantus,] buaswn innau, drwy fod yn eglur o flaen dy feddwl, megis llestr dwyfol i ti, megis cwpan a gras yn llifo drosodd ohono i'th wefusau di.
 
(0, 10) 910 [Cwpan oeddwn i a safai o'th flaen, a lanwyd hyd yr ymyl gan y nefoedd ei hun.
(0, 10) 911 Nid oedd yn y cwpan hwnnw ddim daearol, am hynny, dibwys oeddwn yn dy olwg di!]
 
(0, 10) 913 [O, gwae! bellach bydd syched byth ar dy wefus!
(0, 10) 914 Ni fynnaist yfed ond o bethau'r byd, ac am hynny, cipiwyd y cwpan oddi wrthyt.]
 
(0, 10) 917 [Dyna'r edifeirwch chwerw, llosg, y gofid cudd.
(0, 10) 918 O, pe gallent hwy lunio dy galon di o'r newydd, mor ddedwydd fyddai hynny i ni'n dau!]
 
(0, 10) 931 O na bai i'r edifeirwch tanbaid hwn fy rhyddhau oddi wrth y llawr!
(0, 10) 932 [Gwae na allaf sefyll ar fy nhraed wrth ei ystlys ef yrawr hon.
 
(0, 10) 934 Mor druan, gwan a chlaf wyf i!]
 
(0, 10) 939 [O, Pobun!]
 
(0, 10) 941 Y mae i mi chwaer, Ffydd y gelwir hi.
(0, 10) 942 Pe gadawai hi erfyn arni ddyfod i'th ganlyn ar dy ffordd, a sefyll gyda thi ger bron brawdle Duw!
 
(0, 10) 944 [Efallai mai troi oddi wrthyt a wnai, a'th ado i fynd heb gysur i'th fedd, ond pe gwyddit ti ba fodd i lefaru wrthi, fe roddai hithau ei chynorthwy iti.]
 
(0, 10) 947 [Nid rhaid galw'n groch, teimlaf fod y chwaer yn dyfod!]
(0, 10) 948 F'annwyl chwaer, y mae'r gŵr hwn mewn cyfyngder tost, a sefi di gydag ef pan drengo?
(0, 10) 949 Nid oes i mi mo'r nerth, rhy wan wyf, ni allaf ddadlau drosto.
 
(0, 13) 1018 Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych.
 
(0, 13) 1050 Nid oes yma ffordd i ti.
 
(0, 13) 1055 [{Gan sefyll eto o'i flaen.}
(0, 13) 1056 Dim ffordd!]
 
(0, 14) 1117 [Oni theimlais i fod Pobun yn dyfod?
(0, 14) 1118 Ie, ef ydyw, a daw yma.
(0, 14) 1119 Yr oedd rhywbeth yn dywedyd wrthyf mai ef ydoedd.
(0, 14) 1120 Fe allodd fodloni ei Arglwydd, 'rwy'n teimlo drwy f'aelodau oll y nerth at ehedeg fry!]
 
(0, 14) 1126 Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben.
 
(0, 14) 1135 A deuaf innau gyda thi, Pobun.
 
(0, 14) 1138 Arglwydd, boed dawel ein diwedd ni, i'th lawenydd di yr awn i mewn.